Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
7 Chwefror 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4905
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 3 ag 8 gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd y 9 chwestiwn.
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
Dechreuodd yr eitem am 14.52
Gwnaeth Jane Hutt ddatganiad yn nodi can mlynedd ers i rai menywod ennill yr hawl i bleidleisio (6 Chwefror), a thalu teyrnged i fenywod sy’n ymddangos yn Llwybr Menywod y Barri.
Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar Ganser y Coluddyn, a gêm rygbi rhwng y Cynulliad a Thŷ’r Cyffredin a fydd yn codi arian i elusen Bowel Cancer UK (10 Chwefror).
Gwnaeth Dai Lloyd ddatganiad ar Diwrnod Canser y Byd (4 Chwefror).
Dechreuodd yr eitem am 14.58
NDM6646 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
2. Yn cymeradwyo penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i ymgynghori ynghylch cynigion y Panel a diwygiadau eraill yn ymwneud ag etholiadau, yr etholfraint a threfniadau mewnol y gellir eu rhoi ar waith o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.37
NDM6537 Vikki Howells (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6647 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn penderfynu na ddylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu ffordd liniaru arfaethedig yr M4 heb bleidlais ystyrlon ar gynnig o sylwedd yn y Cynulliad yn dilyn casgliad yr ymchwiliad cyhoeddus presennol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad, adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
11 |
15 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

14 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6645 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.
2. Yn credu:
a) ar hyn o bryd, na ddylai fod unrhyw gynnydd yn nifer aelodau etholedig y Cynulliad; a
b) bod yn rhaid i etholwyr nodi eu caniatâd ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol drwy refferendwm.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
48 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
6 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6645 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
6 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.30
Dechreuodd yr eitem am 17.34
NDM6648 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Rôl ysbytai cymunedol yng ngofal iechyd yn y 21ain ganrif
Daeth y cyfarfod i ben am 17.55
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Chwefror 2018